P-03-280 Ysbyty Brenhinol Caerdydd
Geiriad y ddeiseb
Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn gwrthwynebu, yn y modd cryfaf bosibl, y penderfyniad i gau Ysbyty Brenhinol Caerdydd. Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod yr ymrwymiad i ailddatblygu’r ysbyty’n cael ei gyflawni gan ddefnyddio arian cyhoeddus, a bod y gwaith ailddatblygu yn arwain at ailwampio ac ailagor Ysbyty Brenhinol Caerdydd fel ysbyty sy’n gweithredu’n llawn, gan gynnwys Uned Damweiniau ac Achosion Brys ac Uned Gofal Dwys ar gyfer poblogaeth Caerdydd a’r cyffiniau, sy’n cynyddu o hyd.
Cynigwyd gan: Mrs Breen
Ystyriwyd y ddeiseb am y tro cyntaf: Mis Mawrth 2010
Nifer y llofnodion: 4,071